

I gael diweddariadau diweddaraf at y ffeil darllenfi, gweler 
http://www.libreoffice.org/welcome/readme.html

Mae'r ffeil hon yn cynnwys gwybodaeth bwysig am y ${PRODUCTNAME}. 
Argymhellir eich bod yn darllen y wybodaeth yn ofalus iawn cyn dechrau 
gosod.

Mae cymuned ${PRODUCTNAME} yn gyfrifol am ddatblygu'r cynnyrch hwn, ac yn 
eich gwahodd i ystyried cymryd rhan fel aelod cymunedol. Os ydych chi'n 
ddefnyddiwr newydd, gallwch ymweld â gwefan ${PRODUCTNAME}, lle mae lawer 
o wybodaeth am brosiect ${PRODUCTNAME} a'r cymunedau sy'n bodoli o'i 
gwmpas. Ewch i http://www.libreoffice.org/.
			
A yw ${PRODUCTNAME} am ddim ar gyfer Unrhyw Defnyddiwr?
----------------------------------------------------------------------

Mae ${PRODUCTNAME} ar gael yn rhad ac am ddim i'w ddefnyddio gan bawb. 
Gallwch gymryd y copi hwn o ${PRODUCTNAME} a'i osod ar faint bynnag o 
gyfrifiaduron yr hoffech chi ei wneud, a'i ddefnyddio at ba bynnag bwrpas 
yr hoffech chi (gan gynnwys defnydd masnachol, llywodraeth, gweinyddiaeth 
gyhoeddus ac addysgol). Am wybodaeth bellach gweler y testun trwyddedu o 
fewn y pecyn llwytho i lawr ${PRODUCTNAME}.
			
Pam mae ${PRODUCTNAME} am ddim ar gyfer Unrhyw Ddefnyddiwr?
----------------------------------------------------------------------

Gallwch ddefnyddio'r copi hwn o ${PRODUCTNAME} yn rhad ac am ddim oherwydd 
bod cyfranwyr unigol a noddwyr corfforaethol wedi dylunio, datblygu, 
profi, cyfieithu, dogfennu, cefnogi, marchnata, a chynorthwyo mewn sawl 
ffordd arall i wneud ${PRODUCTNAME} yr hyn ydyw heddiw - meddalwedd 
cynhyrchu amlycaf y byd Cod Agored ar gyfer y cartref ac yn y swyddfa.

Os byddwch yn gwerthfawrogi eu hymdrechion, a hoffi sicrhau fod 
${PRODUCTNAME} yn parhau i fod ar gael ymhell i'r dyfodol, ystyriwch 
gyfrannu at y prosiect - gweler 
http://www.documentfoundation.org/contribution/ am fanylion. Gall pawb 
wneud cyfraniad o ryw fath.

Fel rheol gyffredinol, argymhellir eich bod yn gosod ${PRODUCTNAME} drwy'r 
dulliau gosod a argymhellwyd gan eich dosbarthiad Linux penodol (ee 
Canolfan Meddalwedd Ubuntu, yn achos Ubuntu). Mae hyn oherwydd mai dyma'r 
ffordd symlaf i osod a gaiff ei hintegreiddio orau i'ch system. Yn wir, 
gall fod ${PRODUCTNAME} eisoes wedi ei osod yn barod yn awtomatig pan 
fyddwch wedi gosod eich system weithredu Linux yn wreiddiol.

Mae'r gosodwr ${PRODUCTNAME} yma yn ''sefyll ar ben ei hun" yn cael ei 
ddarparu ar gyfer defnyddwyr sydd angen rhagolwg, rhai sydd ag anghenion 
arbennig, ac ar gyfer achosion allan o'r cyffredin.

* Cnewyllyn Linux fersiwn 2.6.18 neu uwch;
* glibc2 fersiwn 2.5 neu uwch;
* fersiwn gtk 2.10.4 neu uwch;
* Pentium PC (argymhellir Pentium III neu Athlon);
* 256 MB RAM (argymell 512 MB RAM);
* Hyd at 1.55 MB lle ar y ddisg galed ar gael
* X Server gyda chydraniad 1024x768 (argymhellir cydraniad uwch), gydag o 
leiaf 256 lliw;
* 2.16 Gnome neu uwch, gyda'r 1.8.6 Gail a'r 1.7 ar-SPI becynnau (sy'n 
ofynnol ar gyfer cymorth ar gyfer technoleg gynorthwyol [AT] offer), neu 
un arall gydnaws GUI (fel KDE, ymhlith eraill).

Mae amrywiaeth eang o ddosbarthiadau Linux, ac efallai y bydd gwahanol 
ddewisiadau gosod (KDE, Gnome, ac ati) ar gael gan yr un gwerthwr Linux. 
Mae rhai dosbarthiadau'n cael eu dosbarthu gyda'u fersiwn "brodorol" eu 
hunain o ${PRODUCTNAME}, a gall fod rhai nodweddion gwahanol o'r fersiwn 
cymunedol hwn o ${PRODUCTNAME}. Mewn llawer i achos, gallwch osod y 
fersiwn cymunedol o ${PRODUCTNAME} ochr yn ochr â'r fersiwn brodorol. 
Fodd bynnag, efallai y byddai'n well gennych gael gwared ar y fersiwn 
"brodorol" cyn gosod y fersiwn hwn. Am fanylion ar sut i wneud hynny, 
edrychwch ar yr adnoddau cymorth defnyddiwr sy'n cael ei ddarparu gan eich 
gwerthwr Linux penodol.

Mae'n arfer gorau i wneud copi wrth gefn o'ch system a'ch data cyn i chi 
dynnu neu osod meddalwedd.

Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o gof am ddim yn y cyfeiriadur dros 
dro ar eich system, a gwnewch yn siŵr bod hawl darllen, ysgrifennu a 
rhedeg wedi ei ganiatáu. Caewch bob rhaglen arall cyn dechrau ar y broses 
gosod.
			
Gosod ${PRODUCTNAME} ar systemau Linux yn seiliedig ar Debian/Ubuntu
----------------------------------------------------------------------

Os oes gennych fersiwn blaenorol o ${PRODUCTNAME} wedi ei osod yn barod, 
yna bydd angen i chi ddadosod cyn mynd ymhellach. I gael cyfarwyddiadau ar 
sut i wneud hynny, darllenwch yr adran isod, Dadosod Fersiwn Blaenorol o 
${PRODUCTNAME}. I gael cyfarwyddiadau ar sut i osod pecyn iaith (ar ôl 
gosod y fersiwn Saesneg US o ${PRODUCTNAME}), darllenwch yr adran isod, 
Gosod Pecyn Iaith.

Pan fyddwch wedi dadbacio’r yr archif a lwythwyd i lawr, fe welwch fod y 
cynnwys wedi cael eu datgywasgu i is-gyfeiriadur. Agorwch ffenestr rheolwr 
ffeiliau, a newid cyfeiriadur tuag at yr un yn dechrau gyda "LibO_", sy'n 
cael ei ddilyn gan rif y fersiwn a rhywfaint o wybodaeth platfform.

Mae'r cyfeiriadur hwn yn cynnwys is-gyfeiriadur o'r enw "DEBS". Newidiwch 
y cyfeiriadur i gyfeiriadur "DEBS".

Rhowch glic de o fewn y cyfeiriadur a dewis "Agor mewn Terfynell". Bydd 
ffenestr terfynell yn agor. O linell orchymyn y ffenestr derfynell, rhowch 
y gorchymyn canlynol (byddwch yn cael eich annog i gynnig eich cyfrinair 
defnyddiwr gwraidd cyn bydd y gorchymyn gweithredu):

sudo dpkg -i *.deb

Mae'r gorchymyn dpkg uchod yn gwneud y rhan gyntaf o'r broses osod. I 
gwblhau'r broses, byddwch hefyd angen gosod y pecynnau integreiddio’r 
bwrdd gwaith. I wneud hyn, newidiwch gyfeiriadur i'r cyfeiriadur 
"desktop-integration" sydd o fewn cyfeiriadur "DEBS", gan ddefnyddio'r 
gorchymyn canlynol:

cd desktop-integration

Nawr rhedeg y gorchymyn dpkg eto:

sudo dpkg -i *.deb

Mae'r broses gosod nawr wedi ei chwblhau, a dylai bod eiconau ar gyfer yr 
holl raglenni ${PRODUCTNAME} ar ddewislen Rhaglenni/Swyddfa eich bwrdd 
gwaith.
			
Gosod ${PRODUCTNAME} ar Fedora, SUSE, Mandriva a systemau Linux eraill gan 
ddefnyddio pecynnau RPM
----------------------------------------------------------------------

Os oes gennych fersiwn blaenorol o ${PRODUCTNAME} wedi ei osod yn barod, 
yna bydd angen i chi ddadosod cyn mynd ymhellach. I gael cyfarwyddiadau ar 
sut i wneud hynny, darllenwch yr adran isod, Dadosod Fersiwn Blaenorol o 
${PRODUCTNAME}. I gael cyfarwyddiadau ar sut i osod pecyn iaith (ar ôl 
gosod y fersiwn Saesneg US o ${PRODUCTNAME}), darllenwch yr adran isod, 
Gosod Pecyn Iaith.

Pan fyddwch yn dadbacio'r archif llwythwyd i lawr, byddwch yn gweld fod y 
cynnwys wedi cael eu datgywasgu i mewn is-gyfeiriadur. Agorwch ffenestr 
rheolwr ffeiliau, a newid cyfeiriadur at yr un yn dechrau gyda "LibO_", 
sy'n cael ei ddilyn gan y rhif y fersiwn a rhywfaint o wybodaeth platfform.

Mae'r cyfeiriadur hwn yn cynnwys isgyfeiriadur o'r enw "RPMS". Newidwch y 
cyfeiriadur i gyfeiriadur "RPMS".

Rhowch glic de o fewn y cyfeiriadur a dewis "Agor mewn Terfynell". Bydd 
ffenestr terfynell yn agor. O linell orchymyn y ffenestr derfynell, rhowch 
y gorchymyn canlynol (byddwch yn cael eich annog i gynnig eich cyfrinair 
defnyddiwr gwraidd cyn bydd y gorchymyn gweithredu):

Ar gyfer systemau sy'n seiliedig ar Fedora : su -c 'yum install *.rpm'

Ar gyfer systemau sy'n seiliedig ar Mandriva : sudo urpmi *.rpm

Ar gyfer systemau eraill sy'n defnyddio RPM (Suse, ac ati): rpm -Uvh *.rpm

Mae'r gorchymyn uchod yn gwneud y rhan gyntaf o'r broses osod. I gwblhau'r 
broses, byddwch hefyd angen gosod y pecynnau integreiddio’r bwrdd 
gwaith. I wneud hyn, newidiwch gyfeiriadur i'r cyfeiriadur 
"desktop-integration" sydd o fewn cyfeiriadur "RPMS", gan ddefnyddio'r 
gorchymyn canlynol:

cd desktop-integration

Nawr rhedeg y gorchymyn gosod eto:

Ar gyfer systemau sy'n seiliedig ar Fedora : su -c 'yum install 
*redhat*.rpm'

Ar gyfer systemau sy'n seiliedig ar Mandriva : sudo urpmi *mandriva*.rpm

Ar gyfer systemau eraill sy'n defnyddio RPM (SUSE, ac ati): rpm -Uvh 
*suse*.rpm

Mae'r broses gosod nawr wedi ei chwblhau, a dylai bod eiconau ar gyfer yr 
holl raglenni ${PRODUCTNAME} ar ddewislen Rhaglenni/Swyddfa eich bwrdd 
gwaith.
			
Nodiadau Ynghylch Integreiddio'r Bwrdd Gwaith ar gyfer dosbarthiadau Linux 
sydd Heb eu cynnwys yn y Cyfarwyddiadau Gosod Uchod
----------------------------------------------------------------------

Dylai fod yn eithaf hawdd gosod ${PRODUCTNAME} ar ddosbarthiadau Linux 
eraill heb eu cynnwys yn benodol yn y cyfarwyddiadau gosod. Y prif 
wahaniaethau all fod mewn integreiddio’r bwrdd gwaith.

Mae'r cyfeirlyfr integreiddio'r bwrdd gwaith hefyd yn cynnwys pecyn a 
enwir libreoffice3.3-freedesktop-menus-3.3.1.noarch.rpm (neu debyg). Mae 
hwn yn becyn ar gyfer yr holl ddosbarthiadau Linux sy'n cefnogi'r 
manylebau/argymhellion Freedesktop.org 
(http://en.wikipedia.org/wiki/Freedesktop.org ), ac mae'n cael ei ddarparu 
ar gyfer ei osod ar ddosbarthiadau Linux eraill heb eu cynnwys yn y 
cyfarwyddiadau uchod.
			
Gosod Pecyn Iaith
----------------------------------------------------------------------

Llwythwch i lawr y pecyn iaith ar gyfer eich dewis iaith a phlatfform. 
Maent ar gael oddi ar yr un lleoliad a'r prif archif gosod. O'r trefnydd 
ffeiliau Nautilus, dynnwch yr archif i mewn i gyfeiriadur (eich bwrdd 
gwaith, er enghraifft). Sicrhewch eich bod allan o bob rhaglen 
${PRODUCTNAME} (gan gynnwys CychwynCyflym, os yw wedi ei gychwyn).

Newidiwch gyfeiriadur i'r cyfeiriadur yr ydych wedi echdynnu eich pecyn 
iaith iddo.

Nawr newidiwch gyfeiriadur tuag at y cyfeiriadur a grëwyd yn ystod y 
broses echdynnu. Er enghraifft, ar gyfer y pecyn iaith Ffrangeg ar gyfer 
system Debian 32-did/Ubuntu, enw'r cyfeiriadur yw LibO_, yn ogystal â 
rhywfaint o wybodaeth fersiwn, a Linux_x86_langpack-deb_fr.

Nawr newidiwch i'r cyfeiriadur sy'n cynnwys y pecynnau i'w gosod. Ar 
Debian/Ubuntu, bydd y cyfeiriadur o fewn DEBS. Ar systemau Fedora, SUSE 
neu Mandriva, bydd y cyfeiriadur yn cynnwys RPMS.

O'r rheolwr ffeiliau Nautilus, rhowch glic de yn y cyfeiriadur a dewis y 
gorchymyn "Agor mewn terfynell". Yn y ffenest derfynell rydych newydd ei 
hagor, gweithredwch yr orchymyn i osod y pecyn iaith (gyda'r holl 
orchmynion isod, efallai y byddwch yn derbyn cais i roi eich cyfrinair 
defnyddiwr gwraidd):

Ar gyfer systemau sy'n seiliedig ar Debian/Ubuntu: sudo-i dpkg *. deb

Ar gyfer systemau sy'n seiliedig ar Fedora : su -c 'yum install *.rpm'

Ar gyfer systemau sy'n seiliedig ar Mandriva : sudo urpmi *.rpm

Ar gyfer systemau eraill sy'n defnyddio RPM (SUSE, ac ati): rpm -Uvh *.rpm

Nawr cychwynnwch un o'r rhaglenni ${PRODUCTNAME} - Writer, er enghraifft. 
Ewch i'r ddewislen Offer a dewiswch Dewisiadau. Yn y blwch deialog 
Dewisiadau, cliciwch ar "Gosodiadau Iaith" ac yna cliciwch ar "Ieithoedd". 
Agorwch y rhestr "Rhyngwyneb Defnyddiwr" a dewiswch yr iaith yr ydych am 
ei osod. Os ydych yn dymuno, gwnewch yr un peth ar gyfer y "Gosodiadau 
Locale", yr "Arian rhagosodedig", a'r "Ieithoedd Rhagosodedig ar gyfer 
dogfennau".

Ar ôl addasu'r gosodiadau hynny, cliciwch ar Iawn. Bydd y blwch deialog 
yn cau, ac fe welwch neges yn dweud wrthych y bydd eich newidiadau ond yn 
cael eu hactifadu ar ôl i chi adael ${PRODUCTNAME} a dechrau eto (cofiwch 
hefyd adael CychwynCyflym os ydyw wedi dechrau).

Y tro nesaf y byddwch yn dechrau ${PRODUCTNAME}, bydd yn cychwyn yn yr 
iaith rydych wedi ei osod.
			
----------------------------------------------------------------------
Perfformiad Graffigau
----------------------------------------------------------------------

Drwy ragosodiad, mae ${PRODUCTNAME} yn ffafrio graffeg del dros cyflymder. 
Os ydych yn profi graffeg araf, gall diffodd 'Offer - Dewisiadau - 
${PRODUCTNAME} - Golwg - Defnyddio Gwrth-aliasing' fod o gymorth.

Am ragor o wybodaeth am nodweddion hygyrchedd o fewn ${PRODUCTNAME}, 
gweler http://www.libreoffice.org/accessibility/

Mae'r brif dudalen cymorth http://www.libreoffice.org/support/ yn cynnig 
amrywiaeth o bosibiliadau i dderbyn cymorth gyda ${PRODUCTNAME}. Efallai 
fod eich cwestiwn eisoes wedi cael ei hateb - edrychwch ar y Fforwm 
Cymunedol ar http://www.documentfoundation.org/nabble/ neu chwiliwch 
archifau 'rhestr e-bostio 'users@libreoffice.org' yn 
http://www.libreoffice.org/lists/users/ . Fel arall, gallwch anfon eich 
cwestiynau at users@libreoffice.org. Os hoffech danysgrifio i'r rhestr (i 
gael ymatebion e-bost), anfon e-bost gwag at: 
users+subscribe@libreoffice.org.

Hefyd darllenwch adran Cwestiynau Cyffredin yn 
http://www.libreoffice.org/faq/.

Bugzilla yw ein system ar gyfer adrodd, olrhain a datrys bygiau ar hyn o 
bryd, sy'n cael ei gynnal, diolch i https://bugs.freedesktop.org/. Rydym 
yn annog pob defnyddwyr i feddu'r hawl a bod croeso i roi gwybod am wallau 
a all godi ar eich platfform penodol. Mae adrodd egnïol ar wallau yn un 
o'r cyfraniadau pwysicaf y gall y gymuned ddefnyddwyr ei wneud i 
ddatblygiad a gwelliant parhaus ${PRODUCTNAME}.

Fel defnyddiwr, rydych eisoes yn rhan werthfawr o'r broses ddatblygu'r 
rhaglenni a hoffem eich annog i gymryd rhan hyd yn oed yn fwy gweithgar 
gyda golwg ar fod yn gyfrannwr tymor hir i'r gymuned. Ymunwch a darllen y 
dudalen cyfrannu yn http://www.libreoffice.org/contribution/

Y ffordd orau i ddechrau cyfrannu yw drwy danysgrifio i un neu fwy o'r 
rhestrau e-bostio, llechu am ychydig, ac yn raddol ddefnyddio'r post 
archifau i ymgyfarwyddo â llawer o'r pynciau sy'n cael eu trafod ers i'r 
cod ffynhonnell ${PRODUCTNAME} gael ei rhyddhau yn ôl yn Hydref 2000. Pan 
fyddwch yn gyfforddus, dim ond angen i chi gyflwyno eich hun sydd ei angen 
ac ymuno'r gwaith. Os ydych yn gyfarwydd â Phrosiectau Cod Agored, 
edrychwch ar ein rhestr Gwneud a gweld os oes unrhyw beth yr hoffech chi 
gyfrannu tuag ato http://www.libreoffice.org/develop/.

Dyma rai o'r rhestrau e-bostio at y gallwch danysgrifio iddynt 
http://www.libreoffice.org/contribution/

* Newyddion: announce@documentfoundation.org *ar gyfer pob defnyddwyr* 
(traffig ysgafn)
* Prif restr defnyddiwr: users@libreoffice.org *ffordd hawdd i lechu ar 
drafodaethau* (traffig trwm)
* Project marchnata: marketing@libreoffice.org *tu hwnt i ddatblygiad* 
(trymhau)
* Rhestr cyffredinoldatblygwr: libreoffice@lists.freedesktop.org (traffig 
trwm)
			
Ymuno gydag un neu fwy o Brojectau
----------------------------------------------------------------------

Cymuned LibreOffice

Portions Copyright 1998, 1999 James Clark. Portions Copyright 1996, 1998 
Netscape Communications Corporation.